top of page

CWT BUGAIL MOETHUS
GYDA GOLYGFEUDD SYFRDANOL O'R MYNYDDOEDD 

Ynys Môn, Gogledd Cymru

VDIH4913.JPG

CROESO I'R CWT CLYD

Cwt Bugail pwrpasol wedi'i wneud â llaw yw Cwt Clyd, wedi'i leoli yng nghanol Ynys Môn, gyda golygfeydd syfrdanol o fynyddoedd Eryri a chefn gwlad. 

CYFLEUSTERAU

 Gall y cwt letya dau berson yn gyfforddus gyda gwely dwbl

​

Mae'r cwt yn cynnwys ystafell ymolchi gyda chawod

​

 Mae wedi ei addurno â dodrefn draddodiadol a phwrpasol wedi'u gwneud â llaw

 

 Darperir dillad gwely a thyweli moethus

 

 Mae'r gegin yn cynnig sinc, hob, a rhewgell/oergell gydag offer cegin sylfaenol

​

Darperir dŵr poeth trwy wresogydd tanc dŵ

​

Wedi'i inswleiddio'n llawn â gwydr dwbl drwyddo

​

Mae'r stôf drydan (effaith llosgwr coed) yn berffaith i nosweithiau oer

ARDAL ALLANOL

Ar ôl crwydro’r gorau o’r ynys, mae’r ardal eistedd awyr agored breifat yn lle perffaith i ymlacio o dan y sêr tra’n tostio’ch malws melys ar y pwll tân.

XYLG3351.JPG

LLEOLIAD

 

Er bod y cwt wedi'i leoli yng nghefn gwlad tawel, mae'r cwt o fewn milltir i'r ganolfan fasnachol a gweinyddol Tref Llangefni, a drws nesaf i fwyty Nant yr Odyn. Hefyd mae'r cwt dim ond 500 metr o'r A55, sy'n ei gwneud hi'n ganolog i draethau syfrdanol Ynys Môn, llwybr yr arfordir ac atyniadau eraill.

 

RSIW2263 - Copy.JPG

CYFLYSTERAU & RHEOLAU

Mae croeso i gŵn sy'n ymddwyn yn dda aros, am daliad untro o £10.1 ci fesul arhosiad

 Ni chaniateir ysmygu yn y cwt
​

Dim WiFi na theledu yn y cwt 


Prisiau yn dechrau o £118 y noson, arhosiad lleiaf o ddwy noson


Amser cyrraedd - 3yh / 
Amser gadael - 11yb 

bottom of page